Cofrestru neu ddiweddaru eich penderfyniad

Defnyddiwch y ffurflen hon i gofrestru penderfyniad ynglŷn â beth rydych chi eisiau i ddigwydd i’ch organau a’ch meinwe pan fyddwch chi’n marw.

Gallwch chi hefyd ddiweddaru eich manylion neu benderfyniad sydd yno eisoes.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chofnodi’n ddiogel ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Cyn dechrau

Gallwch chi ddewis rhoi eich holl organau a meinwe, rhai ohonynt neu ddim un ohonynt, gan ddefnyddio’r ffurflen hon.

Os byddwch chi’n dewis rhoi, a’ch bod chi'n gallu bod yn rhoddwr, gofynnir i’ch anwyliaid gefnogi hyn. Bydd cofrestru eich penderfyniad nawr yn eu helpu nhw i ddeall beth rydych chi eisiau.

Gallwch chi gofnodi eich penderfyniad ar gyfer:

  • Calon
  • Arennau
  • Iau / Afu
  • Ysgyfaint
  • Pancreas
  • Coluddyn bach
  • Cornbilennau
  • Meinwe

Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, rydych chi’n cytuno i delerau polisi preifatrwydd (yn agor mewn tab newydd).

Dechrau nawr

Angen help i gofrestru?

Os nad ydych chi’n gallu cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni a byddwn ni'n fwy na pharod i helpu. Cysylltu â ni (yn agor mewn tab newydd).